Yn hanu o Aberteifi yn wreiddiol, graddiodd Gareth o Goleg Rose Bruford gyda gradd dosbarth cyntaf yn 2006. Ers symud nôl i Gymru yn 2007, mae Gareth wedi ymddangos yn Y Pris (Fiction Factory) a bydd yn ymddangos ym Mhen Talar (Fiction Factory) yn y dyfodol agos. Gellir ei weld yn chwarae Dr. Simon Strettle yng nghyfres ddrama ysbyty BBC Wales, Crash, fydd yn ailymddangos ar ein sgriniau yn hwyrach eleni. Mae ei waith theatr yn cynnwys dramâu gyda Theatr Clwyd Cymru a Sherman Cymru. Mae Gareth hefyd wedi ymddangos fel perfformiwr gyda DirtyProtest sydd wedi’i seilio yng Nghaerdydd. Ac yntau’n dad i dri o blant ac yn byw y tu allan i Gaerdydd, mae Gareth yn treulio mwyafrif ei benwythnosau mewn pwll peli neu ar y traeth, yn dibynnu ar y tywydd. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar brosiect o’i waith ei hunan "Guydo". Mae Gareth yn hoffi: stêc, pysgod, 24, The Wire, Lost, ei ffrindiau, Tool, McFly (ddwedais i y byddwn yn gweiddi allan fechgyn!!) a Twitter. Nid yw Gareth yn hoffi: seleri, ysgewyll, fersiynau pibau Pan o ganeuon “cyfoes”, y termau "lol", "lmao", "pmsl" ayyb., cael cefn tost a MySpace.