Neidio at y cynnwys

S4C

Caerdydd

MIKE (Character)
MIKE (Character)

Mae Mike yn glyfar a golygus, yn athro coleg gyda thipyn mwy o garisma na’r darlithydd arferol, ffaith sy’n ei wneud yn boblogaidd iawn gyda’i fyfyrwyr - yn enwedig y merched. Nid yw’n syrpreis felly fod ei fyfyrwraig orau, Elen, yn datblygu teimladau tuag ato. Nid yw’n sioc chwaith fod Mike yn teimlo'r un fath - menyw ifanc hardd sydd mor ddeallus ag yntau. Mae eu perthynas yn rymus, y sbarc rhyngddyn nhw'n nerthol, a chyn hir mae Mike yn gadael ei wraig i fod gyda hi. Mae Elen yn darganfod byd newydd wedi iddi raddio ac eisiau profi popeth, tra bod Mike mor gyffrous am eu cariad newydd nes ei fod eisiau setlo lawr cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn achosi ffraeo rhyngddyn nhw ambell waith ac yn y pendraw mae Elen yn ei adael, gan dorri ei galon.

MIKE (Actor)
MIKE (Actor)

Mae Julian newydd fod ar sgrinau sinema ledled Prydain yn y ffilm gyffrous 'The Bank Job', gyda Jason Statham a Keeley Hawes. Mae wedi ymdddangos mewn cyfresi teledu di-ri, yn cynnwys 'Jekyll', 'Belonging' a 'Where the Heart Is' a’r ffilmiau 'Arthur’s Dyke' a 'Solomon a Gaenor'. Cafodd gwylwyr gipolwg ar fywyd Julian oddi-ar y camera pan ymddangosodd ar S4C yn 'Cwpwrdd Dillad'.

Yn 2005, fe adawodd Julian y llwyfan am sbel er mwyn cerdded y 200 milltir o Lanelli i Sir Fôn i godi arian ar gyfer apêl y tsunami yn Asia.