Wedi’i eni yn Aberpennar, graddiodd Lee o Brifysgol Exeter gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf ac enillodd Ysgoloriaeth Sylfaen Cameron Mackintosh er mwyn astudio yn RADA. Mae wedi ymddangos nifer o weithiau yn y Theatr Genedlaethol, gan gynnwys actio rhan Lysander yn A Midsummer Night's Dream ac yn Bacchai gan Peter Hall. Ymddangosodd yng nghynhyrchiad buddugol gwobr Fringe First, The Pull of Negative Gravity gan Jonathan Lichtenstein yn y Traverse, yn ogystal â chwarae’r rôl pan aeth y cynhyrchiad i Efrog Newydd. Mae ei waith theatr yng Nghymru’n cynnwys Night Must Fall, Memory, Arcadia a Mary Stuart gyda Theatr Clwyd Cymru a Romeo & Juliet gyda Theatr Genedlaethol Cymru. Mae ei gredydau sgrin yn cynnwys Love in a Cold Climate ar y BBC a Caerdydd ar S4C, rhaglen mae Lee hefyd wedi’i chyfarwyddo.