Nôl, nos Sul Mehefin 14fed am 9yh
Chwant a chariad ym mwrlwm y brifddinas – croeso nôl i fyd 'Caerdydd'. Mae 'na wynebau newydd yn chwilio am ddechrau newydd, a rhai o’r wynebau cyfarwydd yn chwarae'r un castiau unwaith eto.
Mae Peter yn gwireddu ei uchelgeisiau busnes, ond, fel arfer, ei fywyd personol sy’n achosi problemau iddo, tra bod Osian yn mentro yn y casino. Mae Natasha'r ferch newydd bron â marw eisiau dringo ysgol y cyfryngau, ond bydd yn rhaid iddi oresgyn Elen yn gyntaf. Dyw e ddim yn syndod i neb fod carwriaethau Emyr yr un mor ddryslyd ag arfer, ond mae 'na ddigon o syrpreisys ar droed i Lea, Kate a phawb arall bron â bod!
Mae llawer i ddod yn 'Caerdydd', nid dim ond priodasau, poeni a pheryglon. Mae rhywun wedi darganfod corff yn y Bae…